﻿Mae'r Lluoedd i gyd yn cynnig cyfleoedd i hyfforddi nyrsys.  Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael hyfforddiant milwrol sylfaenol gyda'r Llu o'u dewis cyn dechrau addysg nyrsio yn y brifysgol.

Dylai ymgeiswyr ar gyfer hyfforddiant nyrsio myfyrwyr gael y cymwysterau mynediad lleiaf ar gyfer y Llu penodol. Fe'u rhestrir isod. Mae gofynion mynediad yn amrywio o'r naill Lu i'r llall, ac yn newid gyda threigl amser. Gofynnwch am yr wybodaeth ddiweddaraf yn eich Swyddfa Gyrfaoedd y Llu Arfog perthnasol.

Mae QARNNSyn nodi bod rhaid i ymgeiswyr gael lleifaswm o 200 o bwyntiau tariff UCAS a enillwyd trwy lefelau AS/A. Mae angen ar ymgeiswyr hefyd 3 TGAU graddau A*-C yn cynnwys Saesneg iaith, mathemateg a phwnc gwyddonol. Rhaid i ymgeiswyr fod o leiaf 17 oed a chwe mis; yr oedran mwyaf i gael eich derbyn yw 37 oed.

Mae QARANCyn nodi y dylai ymgeiswyr feddu ar bum TGAU graddau A*-C, a rhaid iddyn nhw gynnwys Saesneg iaith, mathemateg a phwnc gwyddonol. Derbynir rhai cymhwysterau cyfwerth ond mae'n bwysig gwirio gofynion â Swyddfa Gyrfaoedd y Lluoedd Arfog (Y Fyddin). Yr oedran derbyn lleiaf yw 17 oed 10 mis gyda therfyn oedran uchaf o lai na 33 mlwydd. Gall nyrs sydd eisoes dan hyfforddiant ac eisiau ymuno â'r Fyddin am fwrsariaeth o £6,000 am fynediad swyddog neu £5,000 am fynediad newydd. Mae tri cynllun cadetiaeth nyrsio hefyd ar gael am unigolion sydd wedi eu derbyn ar gwrs nyrsio prifysgol (oedolion neu iechyd meddwl). Mae cadetiaid yn cael eu ffioedd wedi eu talu a rhaid iddynt weithio fel swyddog nyrsio am o leiaf chwe blynedd pan ydynt yn gymwys.

Mae PMRAFNSyn nodi bod rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf 200 o bwyntiau tariff UCAS, a enillwyd trwy lefelau A, Gn gynnwys lefel A mewn pwnc gwyddonol. Gall cymwysterau cyfwerth, megis BTEC Cenedlaethol fod yn dderbyniol, ond caiff hyn ei ystyried ar sail yr unigolyn.  Gofynnwch yn Swyddfa Gyrfaoedd y Lluoedd Arfog (yr Awyrlu Brenhinol) am yr union ofynion. Rhaid i ymgeiswyr fod rhwng 17 oed a 6 mis a 32 oed pan fyddant yn cofrestru.

Un fantais o hyfforddi yn y Lluoedd yw eich bod yn sicr o gael swydd ar ôl i chi gymhwyso (ar yr amod eich bod yn addas ar gyfer gwasanaeth gyda'r Lluoedd). Hefyd, tra rydych yn hyfforddi cewch gyflog yn lle bwrsariaeth.
